Cynorthwyydd Prosiect

🔒 Confidential Employer
Posted 2 January 2026
LOCATION
Not specified
TYPE
Volunteer
LEVEL
Entry-level
CATEGORY
Non-profit
This employer holds a UK Home Office sponsor license — sponsorship for this specific role is at the employer’s discretion

SKILLS

Project Management Communication Interpersonal Skills Time Management Transcription Social Media

FULL DESCRIPTION

[Employer hidden — view at passion-project.co.uk] is seeking a project assistant to work on the project 'Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol'. The role involves assisting with the exhibition, transcribing interviews, managing social media, and administrative duties. This is a volunteer opportunity to develop professional skills and project management experience.

Teitl y Prosiect: Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol

Mae gan [Employer hidden] gyfle newydd cyffrous i gynorthwyydd prosiect gymryd rhan yn y prosiect _Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol_.

Nod prosiect _Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol_, a noddir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yw canfod a chofnodi atgofion pobl am yr hyn mae adeilad y Grand yn ei olygu iddyn nhw, p’un a ydynt wedi byw yn Abertawe, wedi ymfudo i’r ardal, neu wedi gweithio yn yr adeilad. Mae’r prosiect yn adrodd eu straeon gan ddefnyddio ffotograffau a chyfweliadau sy’n dangos sut mae’r adeilad wedi esblygu ar hyd y blynyddoedd i gyrraedd ei ffurf bresennol a sut mae wedi cipio calonnau cymaint o bobl.

Canlyniad terfynol y prosiect fydd arddangosfa o’r enw _Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol_, i’w chynnal yn y Grand. Rydym yn chwilio am gynorthwyydd prosiect a fydd yn gweithio’n agos gyda rheolwr y prosiect i gynnal yr arddangosfa.

Mae’r rôl wirfoddol hon yn gyfle i chi ddatblygu portffolio o waith proffesiynol a chymryd rhan mewn prosiect byw. Bydd y prosiect hwn yn eich datblygu’n broffesiynol yn ogystal ag yn greadigol. Bydd yn gyfle hefyd ichi ddatblygu eich sgiliau rheoli prosiect a threfnu amser.

Cyfrifoldebau:

  • Gweithio’n agos gyda rheolwr y prosiect i gyflawni amcanion y prosiect
  • Trefnu amserlen y sesiynau ffotograffiaeth
  • Trawsgrifio a golygu cyfweliadau
  • Bod yn bresennol yn y sesiynau ffotograffiaeth
  • Bod yn bwynt cyswllt i’r cyfranogwyr ac i fudiadau eraill
  • Cyfrifol am ddyletswyddau gweinyddol
  • Cymryd rhan mewn cyfarfodydd a digwyddiadau sy’n ymwneud â’r prosiect
  • Rheoli’r cyfryngau cymdeithasol

Sgiliau:

  • Ysgogiad a chymhelliant i ddysgu
  • Sgiliau rhyngbersonol a chydweithio rhagorol
  • Dibynadwy, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da
  • Sgiliau trefniadol a rheoli amser rhagorol
  • Gallu gweithio i derfynau amser tynn

Os oes gennych ddiddordeb:

Anfonwch eich portffolio a CV mewn ebost at [contact hidden]

Byddwn wedyn yn eich gwahodd i gyfweliad lle gallwch drafod eich gwaith mewn mwy o fanylder a gallwn amlinellu’r rôl a’r cyfleoedd.

Sign up free — access 45,000+ UK sponsor-licensed jobs